Mae gwleidydd yn Ne Affrica wedi galw am streic genedlaethol y glowyr, gan annog gweithwyr mewn mwynfeydd platinwm ac aur i gynyddu eu protestiadau yn erbyn eu rheolwyr.
Dywedodd Julius Malema, wrth annerch miloedd o lowyr sydd yn cynnal streic, y dylen nhw geisio cael gwared ar arweinwyr Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Mwynfeydd, sy’n cael ei ystyried yn un o gynghreiriaid llywodraeth Jacob Zuma.
“Rhaid cynnal streic genedlaethol. Maen nhw wedi bod yn dwyn yr aur yma oddi arnoch chi. Nawr eich tro chi yw e. Rydych chi am gael eich darn aur. Mae’r bobl hyn yn gwneud elw gwerth biliynau o bunnoedd o’r mwynfeydd hyn.”
Ychwanegodd Malema fod yn rhaid i’r llywodraeth ddechrau trin y gweithwyr fel bodau dynol a gyda pharch.
Dechreuodd cyfres o brotestiadau ar Awst 16 pan gafodd 34 o lowyr Marikana a oedd yn streicio eu saethu’n farw gan yr heddlu.
Cafodd 78 eu hanafu yn y digwyddiad.
Erbyn hyn, mae degau o filoedd o weithwyr yn y mwynfeydd wedi cynnal protestiadau a streiciau unigol ar draws y wlad.
Maen nhw’n gofyn bod stiwardiaid y mwynfeydd yn cael eu diswyddo, ac maen nhw am dderbyn codiad cyflog.
Mae Julius Malema wedi gwadu iddo annog trais wrth alw ar bobl De Affrica i drefnu streic.