Mitt Romney
Mae’r ymgeisydd Gweriniaethol am arlywyddiaeth America, Mitt Romney, wedi digio arweinwyr y Palestiniaid ar ôl iddo ddweud mai diwylliant yw’r rheswm pam fod Israel yn fwy llewyrchus nag ardal yr Awdurdod Palesteinaidd.

Ar ei daith i Jerusalem cymharodd Mitt Romney y “gwahaniaeth llwyr rhwng bywiogrwydd economaidd Israel a’r Awdurdod Palesteinaidd.”

Dywedodd fod cynhyrchiant crynswth Israel yn $21,000 y pen, tra bod un Palesteina oddeutu $10,000.

Ymatebodd arweinwyr Palesteinaidd yn chwyrn.

“Mae hwn yn ddatganiad hiliol – nid yw’r dyn yma’n deall fod yr economi Palesteinaidd ddim yn gallu cyrraedd ei botensial am fod Israel wedi meddiannu’r ardal,” meddai Saeb Erekat, uwch swyddog yn yr Awdurdod Palesteinaidd.

Mae Banc y Byd a’r IMF wedi dweud fod economi Palesteina yn cael ei lesteirio gan amodau llym gan Israel, sy’n rheoli llif pobol a nwyddau i mewn ac allan o’r Lan Orllewinol a Llain Gaza.

Mae Mitt Romney ar daith godi arian yn Israel, ac yn ceisio apelio at gefnogwyr Iddewig yn ôl yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod y brecwast codi arian ychwanegodd: “Pan dwi’n dod yma ac yn edrych dros y ddinas yma ac yn ystyried yr hyn mae pobol y genedl hon wedi ei gyflawni, dwi’n cydnabod pwer diwylliant ac ambell i beth arall,” gan grybwyll hinsawdd fusnes arloesol, hanes yr Iddewon o ddod ymlaen dan amodau anodd, a “llaw rhagluniaeth.”

Ddoe cyfeiriodd Mitt Romney at Jerusalem fel “prifddinas Israel”, sylw arall a gododd wrychyn Palesteiniaid sydd am i Ddwyrain Jerusalem fod yn brifddinas i wladwriaeth Balesteinaidd.