Mae’r dyn 24 oed sy’n cael ei gyhuddo o saethu 12 o bobl yn farw mewn sinema yn Colorado wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf.

Cafodd 12 eu lladd a 58 eu hanafu ar ôl i ddyn yn gwisgo mwgwd saethu at dorf tra roedden nhw’n gwylio’r ffilm Batman, The Dark Night Rises, yn ardal Aurora yn ninas Denver.

Mae disgwyl i deulu Holmes roi datganiad yn ddiweddarach heddiw. Dydyn nhw ddim wedi siarad yn gyhoeddus ers iddo gael ei gyhuddo, ac fe ofynnon nhw am breifatrwydd ddydd Gwener.

Dywed yr heddlu fod James Holmes wedi gwrthod cydweithredu yn ystod eu hymchwiliad hyd yn hyn. Gallai gael ei ddedfrydu i farwolaeth.