Rhan o Sana'a, priddinas Yemen (ai@ce CCA 2.0)
Roedd protestiadau ddoe mewn dwy o brifddinasoedd y byd Arabaidd wrth i ragor o bobol alw am newid a chael gwared ar lywodraethau gormesol.

Fe gafodd miloedd o brotestwyr eu hamgylchynu gan luoedd diogelwch ym mhrifddinas Yemen ac roedd miloedd allan hefyd ar strydoedd prifddinas Algeria.

Yn Sana’a yn Yemen, fe geisiodd y gwrthdystwyr fynd ar lysgenhadaeth Yr Aifft er mwyn dathlu cwymp Hosni Mubarak a galw am ymddiswyddiad eu harlywydd eu hunain, Ali Abdullah Saleh.

Fel yn yr Aifft, roedden nhw wedi casglu mewn sgwâr o’r enw Tahrir – rhyddid – ond roedd tua 5,000 o luoedd diogelwch yno hefyd.

Yemen – y cefndir

Mae Yemen yn dangos beth yw anhawster gwledydd y Gorllewin, fel yr Unol Daleithiau. Maen nhw’n cydweithio gyda’r Llywodraeth yno er mwyn ceisio atal y wlad rhag troi’n ganolfan i derfysgwyr.

Maen nhw wedi ymosod ar wrthryfelwyr yno, a hynny’n gallu bod yn amhoblogaidd iawn gyda phobol leol.

Yn ôl sylwebwyr, does gan yr Arlywydd Saleh fawr o reolaeth tros rannau helaeth o’r wlad ac, er mwyn ceisio gwanhau’r protestiadau yn ei erbyn, mae eisoes wedi dweud na fydd yn cynnig eto yn etholiadau 2013.

Ychydig wrthdaro yn Algiers

Roedd yna ambell adroddiad am wrthdaro rhwng protestwyr a lluoedd diogelwch yn Algiers ond doedd dim trafferthion mawr.

Ar un adeg, roedd tua 400 o brotestwyr wedi eu harestio ond mae’r trefnwyr yn dweud bod y gwrthdystiad yn llwyddiant – cyn hyn, medden nhw, roedd pobol yn ofni dangos eu hochr.