Pab Benedict XVI
Mae bwtler y Pab wedi cael ei enwi’n swyddogol fel rhywun a ddrwgdybir mewn ymchwiliad gan y Fatican ar ôl i gyfres o gyfrinachau yn ymwneud ag uwch swyddogion yr Eglwys Babyddol gael eu datgelu i’r wasg.

Mae ynadon y Fatican wedi cyhuddo Paolo Gabriele, sy’n 46 oed, o fod â dogfennau cyfrinachol yn ei feddiant yn anghyfreithlon.

Mae cyfres o sibrydion diweddar wrth y wasg, sydd wedi cael eu henwi’n “Vatileaks,” wedi datgelu achosion o lwgrwobrwyo honedig, camreoli a gwrthdrawiadau mewnol.

Y mis diwethaf, fe sefydlodd Pab Bendict XVI gomisiwn arbennig o gardinaliaid i ymchwilio i mewn i’r mater.