Arlywydd Bashar Assad
Mae tri o filwyr llywodraeth Syria wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro gyda gwrthryfelwyr yn nhalaith Homs, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y grŵp sy’n arsyllu hawliau dynol yn Syria, fe ddigwyddodd y gwrthdaro heddiw wrth i luoedd y llywodraeth geisio mynd i mewn i dref Rastan.

Mae nhw hefyd yn dweud bod gwrthdaro wedi dechrau yn nhalaith Deir el-Zour.

Daw’r gwrthdaro ddiwrnod ar ôl i Syria dderbyn cynllun gan lysgennad y Cenehedloedd Unedig a’r Gynghrair Arabaidd, Kofi Annan, i ddod â’r gwrthryfel i ben. Mae’r cynllun yn galw am gadoediad er mwyn caniatau trafodaethau i geisio dod i gytundeb.

Mae gwledydd y gorllewin wedi galw ar yr Arlywydd Bashar Assad i ddangos ei ymrwymiad i’r cynllun drwy weithredu’n fuan, ond mae ei wrthwynebwyr yn ei gyhuddo o oedi er mwyn ennill amser.