Mae nifer o'r ymosodiadau wedi bod ar safleoedd yr heddlu
Cafodd 46 o bobl eu lladd a mwy na 100 eu hanafu yn dilyn cyfres o ffrwydradau yn Irac heddiw.
Daw’r ymosodiadau ddyddiau’n unig cyn i Baghdad groesawu arweinwyr y Gynghrair Arabaiadd.
Fe ddigwyddodd un ymosodiad yn ninas sanctaidd Karbala, lle ffrwydrodd dau fom car mewn ardal brysur yn llawn siopwyr.
Cafodd 13 o bobl eu lladd a 50 eu hanafu.
Mae miloedd o bererinion Shiaidd yn teithio i Karbala o bob cwr o’r byd bob dydd.
Al Qaida sy’n cael y bai am yr ymosodiadau diweddara gyda rhai yn credu mai’r bwriad yw ceisio atal y gynhadledd gyda’r Gynghrair Arabaidd yn Baghdad rhag cael ei chynnal am yr ail flwyddyn yn olynol.