Yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague
Mae’r ffraeo’n parhau ar ôl ymgais aflwyddiannus gan Brydain i achub dau wystl yn Nigeria ddydd Iau.

Fe fu farw’r Prydeiniwr Chris McManus a’i gydweithiwr o’r Eidal, Franco Lamolinara wrth i filwyr Nigeria a commandos Special Boat Service (SBS) o Brydain geisio eu rhyddhau. Roedden nhw wedi eu cadw mewn caethiwed gan grŵp Islamaidd milwriaethus ers naw mis.

Er bod yr Ysgrifennydd Tramor William Hague yn mynnu y byddai hi wedi bod yn amhosibl rhoi gwybod i awdurdodau’r Eidal ymlaen llaw, dywed Arlywydd yr Eidal, Giorgio Napolitano, fod ymddygiad Prydain yn “anesboniadwy”.

“Mae angen eglurhad gwleidyddol a diplomataidd,” meddai. A haerodd un o ddiplomyddion yr Eidal, Antonio Puri Purini, mai hiraeth Prydain am ei gorffennol imperialaidd a’i harweiniodd i weithredu ar ei phen ei hun.

Dywed William Hague fodd bynnag fod bywydau’r ddau wystl mewn perygl parhaus a chynyddol a bod yn rhaid manteisio’n ddioed ar gyfle cyfyngedig i geisio achub y ddau.