Cerflun Mormonaidd
Mae’r Eglwys Formonaidd wedi rhybuddio aelodau o bob cwr o’r byd mai eu polisi swyddogol yw i beidio â bedyddio’r meirw.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn dicter ynglŷn â honiadau fod yr eglwys wedi ‘bedyddio’ Anne Frank a dioddefwyr eraill o’r holocost ar ôl iddyn nhw farw.

Roedd y Gynghrair Gwrth-Ddifenwi, sy’n ymgyrch i atal gwrth-Semitiaeth, wedi cwyno’r wythnos hon ar ôl cael ar ddeall bod y bedyddiadau yn parhau i fynd rhagddynt.

Roedd yr Eglwys Formonaidd wedi cytuno yn y 1990au na fydden nhw’n parhau i fedyddio’r meirw, medden nhw.

Mae’r Mormoniaid yn bedyddio rhywun arall sy’n cynrychioli’r person sydd wedi marw yn ystod y seremoni.

Datgelwyd yn ddiweddar bod Anne Frank a gohebydd Iddewig y Wall Street Journal, Daniel Pearl, a gafodd ei ladd ym Mhacistan, wedi eu ‘bedyddio’ yn y fath fodd.