Mae cwmni gwneud pitsas wedi ymddiheuro ar ôl i weithiwr cyflogedig ysgrifennu sarhad hiliol ar dderbynneb cwsmer.

Roedd Minhee Cho wedi cyhoeddi llun o’r daleb ar wefan Twitter ar ôl ymweld â changen o Papa John’s yn Efrog Newydd.

Roedd y daleb yn ei disgrifio hi fel ‘dynes llygad chinky’.

Lledaenodd y ddelwedd ar draws t we a bu’n rhaid i’r cwmni o Louisville, Kentucky, ymddiheuro yn ffurfiol ar ei dudalen Facebook a Twitter.

Dywedodd y cwmni fod y gweithiwr wedi ei ddiswyddo.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Papa John’s eu bod nhw’n gobeithio cysylltu â Minhee Cho er mwyn ymddiheuro iddi’n bersonol.