Model o un o orsafoedd niwclear Iran
Mae Iran wedi dechrau cyfoethogi wraniwm mewn byncer tanddaearol nad oes modd ei fomio o’r awyr, datgelwyd heddiw.

Yn ôl papur newydd dyddiol Kayhan mae gwyddonwyr Tehran wedi dechrau chwistrellu nwy wraniwm i mewn i allgyrchyddion mewn canolfan ger dinas sanctaidd Qom.

Mae Iran yn honni eu bod nhw’n defnyddio’r dechnoleg er mwyn creu tanwydd niwclear, ond mae rhai o wledydd y gorllewin yn drwgdybio mai’r nod yw creu bom niwclear.

“Mae Kayhan wedi erbyn adroddiad fod Iran wedi dechrau cyfoethogi Wraniwm yng nghanolfan Fordo o ganlyniad i fygythiadau’r gelyn,” meddai’r papur ar ei dudalen blaen.

Mae gan Iran ganolfan cyfoethogi wraniwm arall yn Natanz yng nghanolbarth y wlad ers mis Ebrill 2006.

Ond mae’r labordy yn Fordo wedi ei amddiffyn yn well rhag ofn bod gwlad arall yn penderfynu ymosod arno. Mae’n debyg ei fod wedi ei adeiladu 300 troedfedd o dan y ddaear.

Roedd y ganolfan yn gyfrinach am flynyddoedd cyn i wasanaethau cudd-wybodaeth sylwi arno ym mis Medi 2009.

Mae’r Unol Daleithiau ac Israel wedi dweud y byddwn nhw’n ystyried bomio’r wlad os nad yw Iran yn rhoi’r gorau i’w rhaglen niwclear.

“Mae ein canolfan yn Fordo wedi ei gynllunio a’i greu o dan y ddaear. Does gan y gelyn ddim y gallu i’w ddifrodi,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth Iran.