Talaith Yunnan
Yn Cheina mae 19 o lowyr wedi marw a 24 yn dal ar goll ar ôl damwain mewn pwll glo.

Mae timau achub yn ceisio achub y glowyr sy’n gaeth yn y pwll ar ôl i nwy ollwng.

Mae 30 o ddiffoddwyr tân, 100 o weithwyr o’r timau achub a 300 o weithwyr meddygol ar y safle ym mhwll glo Sizhuang yn nhalaith Yunnan yn ne orllewin Cheina.

Daw’r digwyddiad heddiw wythnos yn unig ar ôl i 52 o lowyr gael eu hachub ar ôl i ran o bwll ddymchwel gan ladd wyth  yn nhalaith Henan.

Y mis Ebrill y llynedd cafodd 115 o lowyr eu hachub ar ôl bod yn gaeth mewn pwll am wyth niwrnod yng ngogledd Cheina.

Pyllau glo Cheina yw’r rhai mwya peryglus yn y byd er bod record diogelch y diwydiant wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.