Cafodd yr heddlu eu galw i Vilnius, prifddinas Lithwania, ar ôl i ddyn gloi ei wraig yn y tŷ bach dros ofidion bod ganddi coronavirus.

Aeth y dyn i banig ar ôl darganfod fod ei wraig wedi cyfarfod â dynes o dras Tsieineaidd oedd wedi treulio amser yn yr Eidal.

Dywed y dyn ei fod e wedi cloi ei wraig yn y tŷ bach “ar ôl trafod sut i osgoi haint gyda doctoriaid ar y ffôn,” yn ôl yr heddlu.

Chafodd y dyn mo’i arestio, a wnaeth ei wraig ddim dwyn achos yn ei erbyn.

Cafodd y ddynes brofion negyddol ar gyfer y firws.

Dim ond un achos sydd wedi ei ddarganfod yn Lithwania hyd yma.