Mae awdurdodau Iran yn dweud nad ydyn nhw “ddim am ildio” tros achos Kylie Moore-Gilbert, academydd sydd wedi’i charcharu yn y wlad ers tua blwyddyn.
Mae’r academydd wedi bod yn y carchar ers tua blwyddyn, a hithau’n gyn-ddarlithydd mewn Astudiaethau Islamaidd ym Mhrifysgol Melbourne.
Mae lle i gredu iddi dderbyn dedfryd o ddeng mlynedd dan glo, a’i bod hi a Dr Fariba Adelkhah, academydd arall, wedi dechrau streic newyn ar Noswyl Nadolig.
Maen nhw’n honni eu bod nhw wedi cael eu carcharu am wneud eu gwaith fel ymchwilwyr, a’u bod nhw wedi cael eu harteithio yn y ddalfa.
Yn ôl llywodraeth Iran, mae Kylie Moore-Gilbert wedi’i charcharu am beryglu diogelwch y wlad a fyddan nhw ddim yn ildio i “ymgyrchoedd pardduo gwleidyddol”.