Imran khanMae disgwyl i filoedd o bobol brotestio ar strydedd Pacistan heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 25) gan alw ar eu prif weinidog i gamu o’r neilltu.
Mae’r dinasyddion yn feirniadol iawn o Imran Khan a’r ffordd y mae wedi mynd i’r afael ag economi’r wlad.
Daw protestiadau heddiw – y Diwrnod Du – flwyddyn ers yr etholiadau seneddol a arweiniodd at benodiad Imran Khan yn Brif Weinidog.
Mae’r rheiny sydd yn feirniadol o’r prif weinidog yn honni hefyd i fyddin Pacistan ymyrryd yn yr etholiad ar ei ran.
Bythefnos yn ôl, fe gynhaliodd rhai o fusnesau Pacistan streic deuddydd o hyd yn erbyn cyfradd trethi’r wlad.