Mae senedd Ffrainc wedi rhoi sêl bendith i dreth newydd ar gwmnïau mawr y we fel Google, Amazon a Facebook.

Bwriad y mesur yw gwneud yn siŵr nad oes modd i’r cwmnïau rhyngwladol osgoi talu trethi trwy agor swyddfeydd mewn gwledydd treth-isel yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmnïau yn talu bron dim treth mewn gwledydd fel Ffrainc, lle maen nhw’n gwneud arian mawr trwy werthu eu cynnyrch.

Mae’r mesur seneddol yn rhagweld treth o 3% ar yr arian y mae’r cwmnïau digidol yn ei wneud, gan dargedu’n benodol y rheiny sy’n gwneud 750 miliwn ewro o elw (£835m) ar draws y byd, ac elw o fwy na 25 millwn ewro (£27m).

Fe allai effeithiol ar gwmnïau Americanaidd fel Airbnb ac Uber, yn ogystal â chwmnïau mawr o wledydd eraill Ewrop a Tsieina.