Mae cangen o’r Morlu Brenhinol a’r awdurdodau yn Gibraltar wedi rhwystro tancer a oedd yn cael ei hamau o gario olew i Syria yn groes i sancsiynau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Prydain wedi croesawu a chanmol “gweithredu cadarn awdurdodau Gibraltar” yn cipio’r tancer.

Mae Prif Weinidog Gibraltar, Fabian Picardo, hefyd yn llongyfarch “y dynion a’r menywod dewr” o’r Morlu Brenhinol a’r awdurdodau yn eu llwyddiant.

Oherwydd y gwrthdaro yn Syria, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi creu sancsiynau yn erbyn cyfundrefn Bashar Assad.