Cafodd ymosodiad ar orsaf dren brysur yn Berlin ei atal ar y funud olaf ar ôl i staff ddod o hyd i fom tân.

Cafodd y bom ei adael mewn twnnel yn yr orsaf, tua 100 llath o’r platfform.

Roedd dyfais arall wedi ei defnyddio mewn ymosodiad cynharach i’r gorllewin o Berlin. Fe achosodd y ffrwydrad rhywfaint o ddifrod gan ddod â’r gwasanaethau tren i stop am gyfnod.

Yn ôl papur newydd yn yr Almaen, Bild, roedd grwp eithafol  wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau. Dywedodd eu bod yn gwrthwynebu presenoldeb milwyr yr Almaen yn Affganistan.