Mae o leiaf 91,600 o bobol wedi cael eu lladd yn rhyfel cartref Yemen ers 2015, yn ôl cronfa ddata ryngwladol.

Mae clymblaid Sawdi Arabia, sy’n cwffio gwrthryfelwyr Houthis Iran, yn gyfrifol am dros 8,000 allan o 11,700 o farwolaethau honedig.

Cafodd 11,900 o bobol eu lladd y llynedd a 30,800 yn 2018 – y nifer uchaf hyd yn hyn.

Dydi’r niferoedd ddim yn cynnwys y rheiny sydd wedi marw mewn trychinebau o ganlyniad i’r rhyfel, fel newyn.