Mae’r offeren gyntaf wedi’i chynnal yn Eglwys Gadeiriol Notre Dame ers y tân dinistriol yno ar Ebrill 15.
Dim ond 30 o bobol oedd yn cael bod yn yr adeilad, ac roedd yn rhaid i’r Archesgob Michel Aupetit wisgo het galed.
Mae’r adeilad ac yn enwedig y nenfwd yn dal yn “fregus”, yn ôl llywodraeth Ffrainc, sy’n rhybuddio y gallai ddymchwel.
Cafodd rhai o weithwyr adeiladu’r eglwys gadeiriol eu gwahodd i’r offeren, wrth i eraill wylio ar y teledu.
Dydy hi ddim yn glir pryd fydd yr eglwys gadeiriol ar agor i’r cyhoedd, ond mae’r Arlwydd Emmanuel Macron yn dweud y dylid gorffen y gwaith o fewn pum mlynedd, er bod hynny’n afrealistig yn ôl arbenigwyr.
Mae llywodraeth y wlad yn trafod deddfwriaeth newydd i greu corff cyhoeddus i oruchwylio’r gwaith adeiladu ac i adolygu cyfreithiau adeiladu’r wlad.