Mae pobol De Affrica yn pleidleisio yn etholiadau arlywyddol a seneddol y wlad heddiw (dydd Mercher, Mai 8) yng nghanol honiadau o lygredd a diweithdra yn y wlad.
Daw’r bleidlais 25 mlynedd ers diwedd apartheid, ond er gwaethaf y ffaith bod y system o wahaniaethu ar sail hil wedi diflannu, mae’r wlad yn parhau i gael ei rhannu gan anghyfartaledd economaidd.
Cyngres Genedlaethol Affricanaidd (ANC) sef plaid Nelson Mandela sydd wedi bod mewn grym ers 1994.
Mae enw’r blaid wedi cael ei faeddu gan sgandalau o lygredd a’r ffaith bod lefelau diweithdra ar 27%.
Y gred ydi y bydd yn rhaid i’r ANC y tro hwn ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall i gael y pleidleisiau sydd eu hangen i newid y cyfansoddiad.
Mae tua 26 miliwn o boblogaeth y wlad o 57 miliwn yn gymwys i bleidleisio, ac fe fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar ôl 48 awr.