Mae cyn-brif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anhwylder ar ei arennau – a hynny ar y diwrnod yr oedd yn bwriadu dadlennu pwy fydd ei dîm a fydd yn sefyll yn etholiadau Senedd Ewrop.

Mae llefarydd ar ran Silvio Berlusconi wedi cadarnhau fod y gwleidydd 82 oed yn bwriadu bod yn y cyflwyniad yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 31) y tu allan i ddinas Milan.

Mae hefyd wedi cadarnhau ei fod yn derbyn triniaeth yng nghlinig San Raffaele yn Milan.

Y gred ydi fod cerrig yn ei arennau yn achosi poen iddo, a does dim lle i gredu fod a wnelo’r pwl hwn o anhwylder ddim oll â’r trafferthion y mae wedi’u cael gyda’i galon yn y gorffennol.