Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud ei fod yn hyderus y gall y wlad ddod i gytundeb masnach â Japan.

Daw ei sylwadau er gwaethaf anghytuno tros y tariffau, wrth iddo gyfarfod â Shinzo Abe yn y Tŷ Gwyn.

Er bod gan y ddau arweinydd berthynas bersonol dda, maen nhw’n anghydweld ynghylch tariff Siapan ar gynnyrch amaethyddol yr Unol Daleithiau, a threth Americanaidd ar geir o Japan.

“Yn y pen draw, mae gennym ni gyfle i ddod i gytundeb masnach hirdymor da gyda Siapan,” meddai Donald Trump, sy’n dweud bod modd dod i gytundeb yn gyflym.

Mae disgwyl iddo deithio i Japan y mis nesaf er mwyn cyfarfod ag ymerawdwr newydd y wlad.