Mae Sawdi Arabia wedi dienyddio 37 o bobol, i gyd yn ddinasyddion y wlad, am droseddau yn ymwneud â brawychiaeth.

Fe ddaeth y newyddion nos Fawrth (Ebrill 23) trwy gyfrwng sianel newyddion y wlad, al-Ekhbariya.

Yn y datganiad, mae’r awdurdodau yn dweud fod y rheiny sydd wedi’u lladd yn dod o wahanol rannau o Sawdi Arabia, ond wedi mabwysiadu “syniadau eithafol” ac wedi “sefydlu celloedd brawychol” gyda’r bwriad o “ledaenu anhrefn”.

Ddydd Llun (Ebrill 22) roedd grwp IS (y Wladwriaeth Islamaidd) wedi cymryd cyfrifoldeb am ymosodiad ar adeilad yn nhref Zulfi, lle cafodd pedwar o ddynion arfog eu lladd, a thri swyddog diogelwch eu hanafu.