Doedd gan arweinydd Gogledd Corea ddim cysylltiad â marwolaeth myfyriwr o’r Unol Daleithiau a gafodd ei garcharu yn y wlad, meddai Donald Trump.

Fe gafodd Otto Warmbier, myfyriwr o Brifysgol Virginia yn Ohio, ei ddedfrydu i bymtheng mlynedd o garchar yn 2016 ar amheuaeth o ddwyn poster propoganda yng Ngogledd Corea.

Bu farw ym mis Mehefin 2017, gyda’i rieni yn honni iddo ddioddef o dan law awdurdodau’r wlad.

Ond mae Arlywydd yr Unol Daleithiau bellach wedi cefnogi Kim Jong Un drwy ddweud nad oedd yr arweinydd “yn gwybod dim am peth”, cyn mynd i ychwanegu ei fod am “gymryd ei air”.

Daw’r cyhoeddiad wedi i gyfarfod rhwng yr arweinwyr gael ei dorri’n fyr, gyda’r ddau wedi methu â dod i gytundeb ynghylch arfau niwclear.