Mae’r Ysgrifennydd Tramor  Jeremy Hunt wedi dweud bod Prydain yn cydnabod arweinydd gwrthblaid Feneswela, Juan Guaido, yn arlywydd dros dro.

Daw hyn ar ôl i wledydd Ewrop ddatgan wythnos diwethaf eu bod yn ochri gydag ef hefyd.

Dywedodd Jeremy Hunt fod y safiad wedi dod yn dilyn methiant Nicolas Maduro – sy’n honni mai efo ddylai fod yn arweinydd – i alw etholiad arlywyddol newydd.

“Dyw Nicolas Maduro heb alw etholiad arlywyddol o fewn y terfyn wyth diwrnod rydym wedi ei osod,” meddai Jeremy Hunt.

“Felly mae’r Deyrnas Unedig ochr yn ochr â chynghreiriaid Ewropeaidd bellach yn cydnabod Juan Guaido fel yr arlywydd cyfansoddiadol dros dro nes y gellir cynnal etholiadau credadwy.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn ein cymryd ni’n nes at ddiwedd argyfwng dyngarol.”