Mae helwyr morfilod yn Japan yn trafod cynlluniau i ail-ddechrau hela yn dilyn penderfyniad gan lywodraeth y wlad i wneud yr arfer yn gyfreithlon eto.

Bydd hawl hela morfilod ar arfordir gogledd-ddwyrain Japan o Orffennaf 1 ymlaen, ac yn ôl yr Asiantaeth Bysgodfeydd, mae chwe heliwr mewn chwech o drefi yn bwriadu hwylio ar draws yr arfordir ar y diwrnod hwnnw.

Fe gyhoeddodd Japan ym mis Rhagfyr y byddan nhw’n codi’r gwaharddiad ar ôl gadael y Comisiwn Morfila Rhyngwladol.

Ond fe wnaethon nhw hefyd benderfynu dod â’u “helfeydd ymchwil” yn yr Antarctig i ben, arfer y maen nhw wedi’i ddilyn ers yr 1980au.