Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi gwadu iddo erioed weithio i Rwsia.

Ac wrth ymateb i amheuon gan gyn-aelodau o’r FBI a chyn-swyddogion o Swyddfa Gyfiawnder ei wlad ei hun, mae wedi galw’r unigolion sy’n taflu baw ato fel “plismyn llwgwr” a “dynion hysbys”.

“Wnes i erioed weithio i Rwsia,” meddai Donald Trump wrth newyddiadurwyr yn Washington. “Dw i’n meddwl ei fod yn insylt i ofyn y ffasiwn beth i mi.

“Dyma’r honiadau mwya’ gwrthun dw i erioed wedi’u darllen, ac os edrychwch chi ar yr honiadau a’r ymchwilio sydd wedi bod iddyn nhw, mi welwch chi nad oes neb wedi canfod unrhyw beth yn fy erbyn i.

“Os ofynnwch chi i bobol Rwsia, dw i wedi bod yn galetach ar y wlad honno nac ar unrhyw un arall… yn galetach, mae’n debyg, nag y bu unrhyw arlywydd arall cyn hyn… mewn unrhyw gyfnod o hanes…”

Mae Donald Trump wedi galw’r ymchwiliad i’w gysylltiadau â Rwsia fel “un twyll mawr”.