Mae llys yn Tsieina wedi dedfrydu dyn o Canada i farwolaeth, am smyglo cyffuriau.

Mae hyn yn debygol iawn i gynyddu’r tensiwn rhwng y ddwy wlad, ers i un o swyddogion cwmni technoleg Huawei gael ei arestio ddiwedd y llynedd.

Mae’r llys yn nhalaith Liaoning yng ngogledd-ddwyrain Tsieina, wedi dweud y bydd Robert Lloyd Schellenberg yn derbyn y gosb eithaf, wedi iddyn nhw wrthod ei blê ddieuog, Yn hytrach, mae wedi’i gael yn euog o fod yn rhan o achos o smyglo cyffuriau i’r wlad.

Mae prif weinidog Canada, Justin Trudeau, yn dweud ei fod yn bryderus fod Tsieina yn ymddangos fel petai wedi dewis dedfrydu un o ddinasyddion ei wlad i farw, a hynny “yn fympwyol”.

Dyma’r sylwadau cryfaf eto i Justin Trudeau eu mynegi yn erbyn Tsieina.

Fe gafodd Robert Lloyd Schellenberg ei arestio dros bedair blynedd yn ôl, a’i ddedfrydu yn 2016 i dreulio 15 mlynedd yng ngharchar.

Ond y mis diwethaf, fe gytunodd llys apêl gydag erlynwyr a fu’n dadlau fod y ddedfryd yn rhy feddal.