Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cychwyn gweithredu eu paratoadau ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’ ar Brexit.

Mae’r paratoadau yn cwmpasu 14 o wahanol feysydd lle y gallai ymadawiad gwledydd Prydain Ewropeaidd “effeithio’n fawr ar ddinasyddion a busnesau” yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith y meysydd hynny mae’r sector ariannol, trafnidiaeth awyr a thollau.

Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb yn ffurfiol ar Fawrth 29, ond dydy Theresa May ddim wedi llwyddo i dderbyn sêl bendith Aelodau Seneddol i’w chynlluniau Brexit eto.

Bydd pleidlais ar y cytundeb Brexit yn cael ei gynnal yn Nhŷ’r Cyffredin yn y flwyddyn newydd, ac mae gweinidogion eisoes wedi rhybuddio bod gwledydd Prydain yn wynebu sefyllfa ‘dim cytundeb’ os na fydd yn cael ei gymeradwyo.