Mae plaid genedlaethol Hindwaidd India wedi colli tir yn etholiadau rhanbarthol y wlad.
Collodd plaid Bharatiya Janata (BJP) Narendra Modi, y prif weinidog, mewn tair talaith oedd yn cael eu hystyried yn gadarnleoedd iddyn nhw – Chhattisgarh, Rajasthan a Madhya Pradesh.
Roedden nhw mewn grym yn Chhattisgarh a Madhya Pradesh ers 15 o flynyddoedd yn ddi-dor.
Aeth y taleithiau hynny i blaid y Gyngres o dan arweiniad Rahul Gandhi, mab Sonia Gandhi.
Mae’r canlyniadau’n ergyd drom i’r blaid ychydig fisoedd cyn etholiadau cenedlaethol y wlad ym mis Ebrill.
Mae Narendra Modi mewn grym ers 2014.
Anfodlonrwydd
Yn ôl Rahul Gandhi, mae’r BJP wedi methu creu miliynau o swyddi i bobol ifanc – un o brif addewidion Narendra Modi.
Mae ffermwyr hefyd yn anfodlon, meddai, am fod y llywodraeth wedi methu â chodi prisiau eu cynnyrch a chynnig cymorth iddyn nhw ar adegau o galedi ariannol.
Ar wefan Twitter, mae Narendra Modi wedi derbyn y canlyniad gan longyfarch plaid Rahul Gandhi ar eu buddugoliaeth.