Mae’r awdurdodau yn yr Eidal yn honni eu bod nhw wedi “chwalu” y Maffia yn Sisili ar ôl arestio 46 o bobol, gan gynnwys un person sy’n cael ei amau o fod yn bennaeth arnyn nhw.

Mae’r Gweinidog Cartref, Matteo Salvini, wedi dweud bod y cyrch gan yr heddlu yn ninas Palmero yn Sisili wedi bod yn un “gwych”.

Mae’r rheiny sydd wedi cael ei arestio yn cael eu hamau o fod yn rhan o’r Maffia ac gyflawni troseddau sy’n ymwneud ag arfau a thrais.

Un sydd wedi cael ei arestio yw Settimo Mineo, y gŵr y mae’r awdurdodau’n credu ei fod wedi cael ei ethol yn arweinydd y Maffia ar yr ynys ym mis Mai, gan olynu’r enwog Salvatore ‘Toto’ Riina.

Dyma’r tro cyntaf i arweinwyr y Maffia gwrdd i gynnal fforwm ar y cyd ers blynyddoedd, meddai’r awdurdodau.