Osborne - chwech wythnos
Chwech wythnos sydd gan ardal yr Ewro i roi ei thŷ mewn trefn, yn ôl y Canghellor,  George Osborne.

Ac mae yna arwyddion bod cyfarfodydd o’r 20 gwlad gyfoethoca’ a Chronfa Ariannol y Byd – yr IMF – wedi dod i gytundeb ynglŷn â dyfodol Gwlad Groeg.

Y disgwyl yw y bydd y wlad yn cael caniatâd i ddileu tua hanner ei dyledion ac y bydd cronfa ganolog i helpu gwledydd bregus yn cael ei chryfhau.

Yn ôl un adroddiad, fe allai gwerth y pecyn cyfan fod cymaint â £2.6 triliwn, ac fe fydd rhai banciau hefyd yn cael chwistrelliad o arian i’w helpu i wynebu dyledion.

‘Argyfwng yn waeth’ meddai Darling

Yn ôl George Osborne, roedd gwledydd ardal yr Ewro wedi deall eu bod nhw yng nghanol argyfwng economaidd y byd.

“R’yn ni wedi eu gweld nhw’n cydnabod bod yr argyfwng wedi mynd i gyfnod newydd peryglus a gorau po gynta’ i economi’r byd y gallwn ni ei ddatrys er gwell,” meddai.

Fe ddywedodd y byddai’n rhaid cael ateb terfynol erbyn cyfarfod o wledydd cyfoethog y G20 yn Ffrainc ym mis Tachwedd.

Ac mae ei ragflaenydd, Alistair Darling, wedi rhybuddio bod yr argyfwng hyd yn oed yn waeth na’r trafferthion dair blynedd yn ôl.