Mae pedwar o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn synagog yn Pittsburgh yn yr Unol Daleithiau, yn ôl adroddiadau yn y wlad.

Mae’r dyn sydd wedi’i amau o’u saethu wedi cael ei enwi fel Robert Bowers, 46 oed. Cafodd ei arestio cyn cael ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd o leiaf 12 o bobol eu saethu yn y digwyddiad, gan gynnwys tri o blismyn.

Mae lle i gredu ei fod e wedi gwneud sylwadau gwrth-Semitig wrth saethu pobol oedd mewn seremoni i enwi babi fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 27).
Mae’r Arlywydd Donald Trump yn dweud bod y digwyddiad yn “beth ofnadwy”, a’i fod yn “waeth na’r disgwyl i ddechrau”.