Mae hunanfomiwr wedi amharu ar rali yn nwyrain Afghanistan, gan ladd beth bynnag 13 o bobol ac anafu mwy na 30.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Kama o Nangarhar, yn ystod ymgyrchu cyn etholiad i ddewis aelodau i senedd y wlad ar Hydref 20.

Mae’n ansicr a fydd y bleidlais yn mynd rhagddi mewn ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan y Taliban.

Yn ol yr awdurdodau, mae llywodraethwr yr ardal wedi cadarnhau fod rhai o’r bobol sydd wedi’u hanafu mewn cyflwr difrifol iawn, a bod yna bryder y gallai nifer y meirwon gynyddu.

Does yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.