Fe all salwch stumog fod yn un o’r prif rwystrau wrth ymgymryd â theithiau hir yn y gofod, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil gan adran o NASA yn dweud ei bod yn bosib y bydd dod i gysylltiad â gormod o ymbelydredd yn niweidio organau’r corff.
Mae hynny yn ei dro yn gallu arwain at broblemau yn y stumog, a gall hefyd ddatblygu canser, meddai’r ymchwil.
Rhwystr
Fe ddaeth arbenigwyr ar draws y peryglon hyn ar ôl cynnal arbrofion ar lygod, gan ddod â nhw i gysylltiad â gronynnau o haearn a oedd wedi’u trydaneiddio.
“A’r dechnoleg sydd gyda ni ar hyn o bryd, bydd yn anodd amddiffyn gofodwyr rhag effeithiau eithafol ymbelydredd ïonau,” meddai Dr Kamal Datta o Ganolfan Ymchwil Arbenigol NASA yn Washington DC.
“Er ei bod yn bosib defnyddio meddyginiaethau i atal yr effeithiau hyn, does yr un cyfrwng wedi’i ddatblygu eto.
“Tra bo teithiau byr, fel yr adeg pan aeth gofodwyr i’r lleuad, ddim o reidrwydd yn achosi’r lefel hwn o niwed, y pryder yw’r niwed parhaol a fydd yn cael ei achosi gan deithiau hir fel yr un i’r blaned Mawrth neu deithiau gofod eraill sydd tipyn yn hwy.”