Dylai Myanmar (Byrma gynt) fod wedi trin eu Mwslemiaid Rohingya yn well, yn ôl yr enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Aung San Suu Kyi.

Mae byddin y wlad wedi’u cyhuddo o dreisio a lladd aelodau’r grŵp lleiafrifol, a bellach mae tîm o’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am erlyn prif swyddigion.

Wrth annerch cyfarfod y Fforwm Economaidd Rhyngwladol yn Fietnam, mae Aung San Suu Kyi wedi cyfleu rhywfaint o edifeirwch am y sefyllfa.

“Wrth gwrs, wrth edrych yn ôl, roedd yna ffyrdd gwell o ddelio â’r sefyllfa, dw i’n credu,” meddai  

“Ond rydyn ni’n credu, er budd sefydlogrwydd a diogelwch tymor hir, rhaid bod yn deg â phob ochr.”

Reuters

Mae Aung San Suu Kyi hefyd wedi wfftio beirniadaeth o achos llys yn erbyn newyddiadurwr Reuters.

Roedd y ddau newyddiadurwr wedi datgelu achosion o lofruddiaeth 10 o ddynion a bechgyn Rohingya, a bellach mae’r pâr wedi derbyn dedfrydau carchar.

“Cafodd yr achos ei gynnal mewn llys agored,” meddai. “Os oes unrhyw un yn teimlo mai camwedd yw hyn, hoffwn iddyn nhw dynnu fy sylw at beth sydd o’i le.”

Aung San Suu Kyi yw Cwnsler Gwladol Byrma – rôl debyg i Brif Weinidog.