Dylai Rwsia a Japan arwyddo cytundeb heddwch cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl yr arlywydd Vladimir Putin.
Daeth diwedd i’r rhyfela rhwng y ddwy wlad pan wawriodd yr Ail Ryfel Byd, ond does dim dogfen ffurfiol o heddwch wedi cael ei arwyddo gan y ddwy ochr.
Wrth siarad mewn cynhadledd economaidd yn nwyrain Rwsia, mae arweinydd y gwledydd wedi cyfleu awydd i wneud hynny yn gymharol fuan.
Yn ôl Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe, mae’r arweinyddion yn gytûn bod y sefyllfa ddim yn “normal”. “Beth am i ni arwyddo’r cyfamod”, meddai Vladimir Putin.
Mae anghydfod tros diriogaeth yn parhau rhwng Rwsia a Japan, ond gallai arwyddo’r cytundeb heddwch ddod â’r gwledydd cam yn agosach at ddatrys y broblem honno.