Mae goruchaf lys India wedi dileu deddf yn dyddio’n ôl i gyfnod yr ymherodraeth, a oedd yn ei gwneud hi’n bosib i roi pobol hoyw yn y carchar am ddeng mlynedd.

Mewn penderfyniad unfrydol, mae pump o farnwyr y Goruchaf Lys wedi dod i’r penderfyniad mai arf i erlid y gymuned hoyw oedd y ddeddf.

Wedi’r dyfarniad, mae gwrthwynebwyr y ddeddf wedi bod yn dawnsio ac yn chwifio baneri y tu allan i’r llys.

Roedd y ddeddf – a oedd yn cael ei hadnabod dan yr enw ‘Adran 377’ – yn mynnu fod cyfathrach rhwng aelodau o’r un rhyw yn mynd yn groes i natur.