Mae o leia’ 20 o bobol wedi’u lladd, a 70 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiadau brawychol ym mhrifddinas Afghanistan.

Bu yna ddau ffrwydrad ger canolfan hyfforddi restlo yn Kabul – un gan hunanfomiwr, ac un ffrwydrad car. Mae’n debyg bod dau newyddiadurwr, ac o leia’ saith o blismyn ymhlith y meirw.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn rhan o’r ddinas lle mae Mwslemiaid Shia yn fwyafrif, ac felly mae awdurdodau yn tybio mai grŵp Sunni y Wladwriaeth Islamaidd (IS) sy’n gyfrifol.

Er hynny, does neb wedi hawlio’r ymosodiad hyd yma.