Mae Llywodraeth Tsieina wedi cael gwared ar yr angen i ddinasyddion ynys Taiwan i dderbyn caniatâd er mwyn gweithio yn y wlad.

Dyma’r ymdrech ddiweddaraf gan y llywodraeth gomiwnyddol i ddenu gweithwyr sydd â sgiliau o’r ynys i Tsieina.

Gobaith Tsieina yw y bydd y weithred hon yn tanseilio Llywodraeth Taiwan, sydd wedi gwrthod cydnabod ers degawdau fod yr ynys – sy’n cael ei galw’n Weriniaeth Tsieina – yn rhan o Tsieina gomiwnyddol.

Mae gwaharddiad ar drwyddedau gweithio hefyd wedi cael ei ymestyn i drigolion Hong Kong a Macau, dwy ddinas a gafodd eu trosglwyddo i ddwylo Tsieina yn ystod y 1990au