Mae adroddiad annibynnol i ddiflaniad un o awyrennau Malaysia Airlines bedair blynedd yn ôl, yn dweud bod y digwyddiad yn parhau’n ddirgelwch.

Yn ôl y ddogfen, er bod yna rai methiannau yn y ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Malaysia i’r digwyddiad, mae’n cydnabod yr honiad fod yr awyren wedi gwyro oddi ar ei thaith yn fwriadol.

Mae lle i gredu hefyd, meddai, fod yr awyren wedi bod yn yr awyr am fwy na saith awr ar ôl colli cysylltiad.

Mae teuluoedd y rheiny a oedd yn teithio ar yr awyren wedi beirniadu’r adroddiad, gan ddweud bod ynddo nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb.

Ond mae swyddogion yn dweud nad hwn yw’r adroddiad terfynol, gan nad yw’r awyren ei hun wedi’i darganfod eto.

Mae Llywodraeth Malaysia wedyn yn dweud y byddan nhw’n ystyried ail-ddechrau’r chwilio pe bai tystiolaeth gadarn ynglŷn â lleoliad yr awyren yn cael ei chyflwyno.

Y cefndir

Roedd yr awyren yn cludo 239 o bobol o Kuala Lumpur i Beijing, cyn diflannu ar Fawrth 8 2014.

Fe ymddangosodd rai gweddillion o’r awyren ar draethau yn Affrica ac ynysoedd Cefnfor India, sy’n awgrymu bod yr awyren wedi plymio i’r môr yn rhywle yn y rhan honno o’r byd.

Ond mae ymdrech i chwilio amdani gan awdurdodau Awstralia, Malaysia a Tsieina wedi methu â darganfod union leoliad yr awyren hyd yn hyn.

Mae ymdrech annibynnol gan gwmni o’r Unol Daleithiau, o’r enw Ocean Infinity, hefyd wedi methu yn eu hymgais. Daeth eu hymdrech nhw i ben yn gynharach eleni.