Mae cyfarfod rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau a Vladimir Putin wedi cael ei ohirio tan 2019.

Dywed cynrychiolwyr Donald Trump mai ymyrraeth y dyn sy’n ymchwilio i gysylltiadau rhwng ymgyrch arlywyddol Trump a Rwsia, Robert Mueller, yn etholiad 2016 yw’r rheswm dros yr oedi.

“Mae’r Arlywydd yn credu y dylai’r cyfarfod dwyochrog nesaf gyda’r Arlywydd Putin ddigwydd ar ôl i erledigaeth Rwsia ddod i ben,” meddai’r weinyddiaeth.

Dywedodd y Tŷ Gwyn yr wythnos diwethaf fod Donald Trump wedi cyfarwyddo ei gynrychwiolwyr i wahodd Vladimir Putin i Washington am gyfarfod yn yr hydref.

Daeth hyn ymhlith y gwrthwynebiad dros berfformiad Donald Trump mewn cynhadledd newyddion gyda Vladimir Putin yn dilyn ei uwchgynhadledd Helsinki, ac roedd llawer o aelodau’r Gyngres wedi gwrthwynebu cyfarfod eto yn yr hydref.