Fe fydd cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn dychwelyd i wlad Belg ddydd Sadwrn.
Daw’r penderfyniad ar ôl i awdurdodau’r wlad ddiddymu gwarant i’w arestio mewn perthynas â’r refferendwm annibyniaeth yng Nghatalwnia.
Cafodd ei arestio yn yr Almaen fis Mawrth, ac roedd Sbaen yn ceisio’i estraddodi i wynebu cyhuddiadau.
Ond penderfynodd llys yn yr Almaen y gallai wynebu cyhuddiadau llai yn unig – o gamddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer y refferendwm.