Fe ymgasglodd degau ar filoedd o bobol yn Zagreb, prif ddinas Croatia, ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 16), er mwyn croesawu’r tîm pêl-droed cenedlaethol yn ôl adre’.
Daw hyn yn dilyn eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, lle llwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol.
Ond er na wnaethom nhw lwyddo i gael eu coroni yn bencampwyr y byd, wedi iddyn nhw golli i Ffrainc o 4-2, mae’r wlad fechan, sy’n gartre’ i 4 miliwn o bobol, wedi’u cyffroi gan y pêl-droed.
Mae’r llwyddiant yn cael ei ystyried gyda’r mwya’ yn hanes chwaraeon Croatia, gan roi hwb i falchder cenedlaethol y wlad a ddaeth ond yn annibynnol yn ystod y 1990au.
Roedd strydoedd y brifddinas wedi cael eu llenwi gan bobol yn canu a llawenhau wrth i’r chwaraewyr gael eu cludo mewn bws awyr agored.
Fe gyhoeddodd yr awdurdodau hefyd fod trafnidiaeth gyhoeddus yn y brifddinas am ddim trwy gydol y dydd, gyda phris tocyn trên ledled y wlad wedi’i haneri hefyd ar gyfer y cefnogwyr a oedd am gyrraedd Zagreb.
Mae cyfryngau’r wlad hefyd wedi annog pobol i ymuno â’r “digwyddiad hanesyddol”, tra bo rhai wedyn yn disgrifio’r tîm cenedlaethol fel eu “harwyr”.