Mae cwch sy’n cludo dros 200 o ffoaduriaid o’r Almaen ar ei ffordd i ynys Melita ar ôl i’r Eidal gytuno i’w derbyn.

Fe ddaw’r newyddion yn dilyn ffrae mewn nifer o wledydd Ewropeaidd yn ddiweddar tros bwy sy’n fodlon croesawu’r ffoaduriaid oddi ar y cychod wrth iddyn nhw gyrraedd y cyfandir o Affrica.

Fe fu’r cwch yn y Môr Canoldir ers yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r Eidal a Melita wrthod derbyn ffoaduriaid i’w porthladdoedd yn wreiddiol.

Mae pedair gwaith yn fwy o deithwyr ar y cwch nag y mae hawl ganddo eu cludo, ac mae’n rhedeg allan o betrol, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl Sky, mae’r cwch yn cludo 224 o ffoaduriaid, gan gynnwys wyth o blant.

Mae’r Eidal yn mynnu nad yw ffoaduriaid yn cael teithio i’r wlad heb ganiatâd y llywodraeth.

Aquarius

Mae’r ffrae yn debyg i’r un tros gwch Ffrengig Aquarius, oedd yn cludo 630 o ffoaduriaid i Ewrop – gwrthododd yr Eidal a Melita dderbyn y rheiny hefyd.

Fe gamodd Sbaen i mewn bryd hynny i dderbyn y ffoaduriaid, ac fe fu’n rhaid i’r cwch deithio 900 o filltiroedd ychwanegol er mwyn cwblhau’r daith.