Mae nifer o bobol wedi marw yn dilyn ffrwydrad ar safle rali lle’r oedd prif weinidog newydd Ethiopia yn siarad.
Mae Abiy Ahmed newydd ei ethol yn arweinydd y wlad.
Dywedodd funudau ar ôl y ffrwydrad yn y brifddinas, Addis Ababa, fod yr ymosodiad yn un oedd wedi cael ei gynllunio’n ofalus, ond ei fod yn un “rhad ac annerbyniol”.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Tensiynau
Fe fu’r wlad yn wynebu tensiynau ac argyfyngau gwleidyddol ers tro.
Daeth y prif weinidog newydd i rym ym mis Ebrill, pan gyhoeddodd y byddai degau o filoedd o garcharorion yn cael eu rhyddhau.
Ymhlith ei bolisïau eraill mae agor cwmnïau gwladol i fuddsoddwyr preifat a sicrhau cytundeb heddwch ag Eritrea.