Mae Senedd Hwngari wedi cymeradwyo newid i’r Cyfansoddiad a fydd yn ei gwneud yn anoddach i ffoaduriaid gael mynediad i’r wlad.

Maen nhw hefyd wedi  cyflwyno cyfraith sy’n bygwth blwyddyn o garchar i’r rheiny sy’n cynorthwyo ffoaduriaid.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Viktor Obran gyhuddo’r biliwnydd, George Soros, o roi cymorth i ffoaduriaid Mwslimaidd i gael mynediad i’r wlad – cyhuddiad mae’r dyn ei hun yn ei wadu.

O ran y newid i Gyfansoddiad y wlad wedyn, mi gafodd y cynnig ei gymeradwyo o 159 pleidlais i bump yn y senedd yn Budapest, gyda’r Llywodraeth yn derbyn cefnogaeth y blaid asgell-dde, Jobbik.

Mae’r cynnig hefyd yn gwneud digartrefedd yn anghyfreithlon, ac yn cynnwys yr addewid y byddai’r wladwriaeth yn amddiffyn ‘diwylliant Cristnogol’ Hwngari.