Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi wfftio honiadau ynglŷn â’r ffaith bod ei bolisi mewnfudo yn gwahanu teuluoedd.
Yn gynharach yn y flwyddyn, fe orchmynnodd weinyddiaeth yr Arlywydd y dylai pob person sy’n croesi’r ffin yn anghyfreithlon rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico gael eu herlyn.
Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae bron 2,000 o blant wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ers cyflwyno’r gorchymyn newydd.
Mae hyn wedi arwain at nifer yn beirniadu polisi’r Arlywydd, gan gynnwys Laura Bush, sef gwraig y cyn-Arlywydd George Bush, a’i ddisgrifiodd fel polisi “creulon, anfoesol a thorcalonnus”.
Mae gwraig Donald Trump, Melania, hefyd wedi mynegi ei barn ar y mater, gan ddweud ei bod yn “casáu gweld plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd”.
Problemau mewnfudwyr
Wrth ymateb i’w feirniaid ar y wefan gymdeithasol, Twitter, mi roddodd Donald Trump y bai ar y Democratiaid am beidio newid y gyfraith, er gwaetha’r ffaith bod y Gweriniaethwyr wedi’u rhannu ar y mater hefyd.
Ychwanegodd fod y rheolau llym yn angenrheidiol, a chyfeiriodd at gangiau yn yr Unol Daleithiau a phroblemau gyda mewnfudwyr yn cyflawni troseddau yn yr Almaen, i gefnogi ei ddadl.
“Dydyn ni ddim eisiau i’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop ddigwydd gyda ni,” meddai.