Mae dau ddringwr a oedd yn ceisio dringo mynydd Everest wedi marw, yn ôl swyddogion yn Nepal.

Roedd aelodau o’r grŵp wedi adrodd bod dringwr o Siapan wedi marw ddydd Llun ac un arall o Facedonia wedi marw ddydd Sul.

Mae’r dringwr o Siapan wedi cael ei adnabod fel Nobukazu Kuriki, 35, a’r dringwr o Facedonia fel Gjeorgi Petkov, 63 oed.

Cafwyd hyd i gorff Nobukazu Kuriki yn ardal Gwersyll 2 a chorff Gjeorgi Petkov yn uwch i fyny’r mynydd.

Fe fydd tua 340 o ddringwyr o dramor a’u harweinwyr Sherpa yn ceisio dringo Everest y mis yma ac mae nifer wedi llwyddo yn ystod yr wythnos ddiwethaf oherwydd y tywydd da.

Mae’r timau yn gorfod rhoi’r gorau i’w hymdrechion erbyn diwedd y mis wrth i’r amodau tywydd waethygu.